Creuwyd y wefan ar gyfer Eisteddfod Bala 2009 y tro cyntaf. Mae'n wefan sy'n cymeryd gwybodaeth o Twitter, Flickr, RSS a uStream a'i gyfuno mewn un safle cyfleus.
Y bwriad oedd i weld os oedd hi'n bosib i greu gwefan cyflym i ddangos defnydd o wefannau cymdeithasol gan y bobl sy'n mynd i ddigwyddiadau fel Hacio'r Iaith. Roedd y wefan yn llwyddiant mawr felly mae wedi cael ei ddatblygu yn bellach ar gyfer Hacio'r Iaith. Bydd hefyd ar gael ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, Y Sioe Frenhinol ac ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2010.
Os da chi yn mynd i ddigwyddiad Hacio'r Iaith, cofiwch roi #haciaith yn eich tweet. Os da chi'n cymeryd lluniau ac yn defnyddio gwefan Flickr, yna plis fysa chi'n taggio'r lluniau gyda haciaith.
Mae'r wefan yma yn gyfuniad o syniadau sawl un o aelodau rhwydweithiau cymunedol cymdeithasol Cymru (Megis Trydar, Facebook ayyb).
Dyluniwyd y tudalennau gan Gareth Jones.